Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn rhoi cyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i sefydlu a chynnal Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI). Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn bartneriaeth aml-asiantaeth sydd â chyfrifoldeb statudol dros ddarparu ymyrraeth, her a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd, gyda'r prif nod o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac aildroseddu gan bobl ifanc 10 - 17 oed.
Mae ein dull partneriaeth yn cynnwys staff o nifer o wahanol sefydliadau:
Cyngor Conwy a Sir Ddinbych
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru
Gwasanaeth prawf
Gwasanaeth Iechyd
Gyrfa Cymru
Camddefnyddio Sylweddau