Mae’n golygu bod gwasanaethau yn dod at ei gilydd i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint.Gweithio'n rhagweithiol ar ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn gwella sefyllfaoedd pobl ifanc ddiamddiffyn.Darparu'r gwasanaethau iawn ar yr adeg iawn yn y lleoedd iawn.Mae pobl ifanc yn cael cyfleoedd a dyheadau ac yn cael eu cefnogi i ffynnu yn eu teulu unigryw eu hunain.Helpu pobl ifanc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.Byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich clywed a byddwn yn gweithio gyda chi i weld pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.Byddwn yn ceisio’ch cefnogi i fod yn fwy gwydn ac yn eich galluogi i fod â strategaethau ymdopi.Eich helpu i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg, hyfforddiant a’r gymuned.Gweithio gyda chi a chymunedau lleol i ddod yn fwy integredig ac i ddeall anghenion eich gilydd.Eich galluogi i ddefnyddio’ch dewis iaith
Cefnogi pobl ifanc 11-25 oed gan gynnwys y bobl ifanc hynny sy'n gadael gofal.
Nac oes
Iaith: Dwyieithog
https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Iechyd-a-gofal-cymdeithasol/Hwb-teuluoedd/Ieuenctid.aspx