Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant ar gyfer plant o’u genedigaeth hyd nes eu bod yn 5 oed. Fel arfer, maen nhw ar agor o’r peth cyntaf yn y bore tan fin nos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydol y flwyddyn. Maen nhw’n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel, ysgogol, naill ai fel gofal dydd llawn neu ofal rhan-amser ar gyfer babanod a phlant cyn ysgol. Mae rhai yn darparu gofal cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod y gwyliau ar gyfer plant hyˆn hefyd.