Mae Helpu Fi i Helpu Ti yn Rhaglen 6 wythnos ar ffurf sesiynau dwy awr yr wythnos. Fe'i hwylusir gan ddau aelod o staff hyfforddedig. Mae'n gwrs rheoli hunangymorth, sy'n canolbwyntio ar nodau bychain sydd o fewn cyrraedd, a bennir bob wythnos gan rieni. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys darganfod datrysiadau i broblemau a nodir gan rieni a'u rhannu yn gamau bychain cyraeddadwy. Mae'r materion a drafodir yn cynnwys bwyta'n iach, yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn na allwn ei reoli, derbyn yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud. Byddwn yn archwilio rhai sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn dysgu sut i fod yn y foment er mwyn tynnu ein meddwl ac i fod yn y presennol. #DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion
Cynigir y cwrs hwn i bob rhiant.
Nac oes
Anyone can contact us directly.
Iaith: Dwyieithog
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/