Dechrau'n Deg Ceredigion - Grŵp Sêr Bychain - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o wasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn grwpiau.

Mae Sêr Bychain yn croesawu babanod o'u genedigaeth nes byddant yn 10 mis oed, a'u rhieni, i fwynhau sesiwn wythnosol o weithgareddau hwyliog ar gyfer babanod. Mae'n gyfle gwych i gyfarfod rhieni a babanod eraill ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog a chyffrous a gynigir gennym. Bydd babanod yn cael hwyl trwy archwilio, canu, treulio amser ar eu bol a chyfarfod babanod eraill.
Yn ystod yr 8 wythnos, byddwn yn archwilio'r materion canlynol;
• Chwarae synhwyraidd
• Straeon a chanu
• Chwarae blêr
• Basgedi trysor
• Diddyfnu – cael hwyl gyda bwyd
• Cwsg

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni a gofalwyr sydd â babanod o enedigaeth i 10 mis oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un cysylltu gyda ni

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs 'Family Links' yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Amserau agor

Llun - Gwener 9yb - 4:30yp