Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta rhyngweithiol, hwyliog a llawn gwybodaeth, a fydd yn eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol.Dros y 6 sesiwn a gynigir i chi, bydd tylino babanod yn eich helpu i feithrin cyswllt gyda'ch baban. Cyn y gall babanod siarad, gallant gyfathrebu gyda'r byd o'u cwmpas trwy synnwyr cyffwrdd. Mae tylino yn ffordd o gyfathrebu gyda'ch baban cyn y gallant siarad. Gall eich helpu chi i:- Gysuro eich baban- Tawelu eich baban- Gwella cwsg- Gwella magu pwysau- Cynorthwyo treulio- Gwella cylchrediad- Lleihau symptomau iselder ôl-enedigolGall tylino babanod fod yn rhywbeth gwych ar gyfer tadau hefyd. Efallai y bydd rhai tadau yn absennol pan roddir llawer o'r gofal ymarferol i'w babanod, yn enwedig os byddant yn y gwaith ac os bydd eu baban yn cael eu bwydo ar y fron. Gall sesiwn dylino reolaidd gyda dad ddatblygu i fod yn arfer, pan fydd hi'n amser mynd i'r gwely efallai, a fydd yn eu helpu i glosio.
Ar gyfer rhieni plant rhwng 8 wythnos a 7 mis oed.I gychwyn ar eich taith Tylino Babanod, cysylltwch a ni. #DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion
Nac oes
We will accept self referrals but we will also take referrals from health visitors.
Iaith: Dwyieithog
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/