Pwy ydym ni'n eu cefnogi
I pwy bynnag a fydd angen i fi edrych ar ôl eu plant. Dwi'n mwynhau cymeryd lluniau or plant ac mae gennai tudalen breifat ar y web lyfr i'r rhieni sydd hefo plant yn fy ngofal.
Rwyf yn hyderus wrth ofalu am blant ag anghenion ychwanegol, yr wyf wedi cael plant yn fy ngofal sydd a dyspracsia ac anghenion addysgol ychwanegol, yr wyf hefyd wedi cael hyfforddiant ar ymatebwr gyntaf ac yn gallu ac wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr. Mae gennyf rwydwaith cefnogaeth da, mae fy nith wedi cael ei gwirio D.B.S. a CYMORTH CYNTAF, a mae fy ffrind Tracy Dolphin hefyd yn warchodwraig. Mae fy mhortffolio ar gael i unrhyw un sy'n edrych ar fy lleoliad gofal plant. Mae gennyf hefyd becyn contract a pholisïau sy'n amlinellu'r hyn y dylech ei ddisgwyl gennyf a pholisi talu. Mae llawer o dalebau a chynlluniau talu yr wyf yn eu defnyddio yn fy lleoliad, ac rwyf yn hapus i'w rhannu gyda'm defnyddwyr gofal plant. Rwy'n caru fy swydd a credaf bod pob plentyn yn bwysig.