Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Ymatebodd llinell gymorth yr NSPCC i bron i 55,000 o gysylltiadau oddi wrth oedolion a oedd yn poeni am lesiant plentyn y llynedd.
Mae ein cynghorwyr yna 24 awr y dydd, i helpu rhieni, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw sy’n poeni am blentyn yn y Deyrnas Unedig. Byddwn ni’n gwrando ar eich pryderon, yn cynnig cyngor a chefnogaeth ac yn gallu cymryd camau ar eich rhan os bydd plentyn mewn perygl.
Pob 25 eiliad mae plentyn yn cysylltu â Childline.
Mae ein gwirfoddolwyr yn cael sgyrsiau sy’n golygu ein bod ni’n gallu amddiffyn plant mewn sefyllfaoedd o gamdriniaeth drwy sicrhau’r help iddyn nhw mae ei angen, pryd mae ei angen arnyn nhw fwyaf.