Grŵp Cefnogi Bwydo ar y Fron Aberystwyth - Ffrindiau'r Fron - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae cefnogaeth bwydo ar y fron un i un gan staff hyfforddedig ar gael i bawb, mae’r grŵp yn cael ei arwain gan Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Teuluol ac mae gwirfoddolwr o’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn mynychu’n rheolaidd.
Mae'r grŵp yn cyfarfod Bob dydd Gwener 11.00am-12.00pm (yn ystod tymor yr ysgol yn unig) yng Nghanolfan Integredig i Blant Yr Eos ym Mhenparcau (What3words///twymodd.roced.ildiodd).

Rydym yn trefnu ymweliadau ‘allan ac o gwmpas’ yn lleol, yn ogystal â gweithgareddau thema o bryd i’w gilydd, mae’r grŵp yn rhedeg yn ystod y tymor yn unig ynghyd ag ychydig o sesiynau dros wyliau’r haf. Gweler ein tudalen Facebook Teuloeudd Ceredigion Families am y wybodaeth ddiweddaraf am y grŵp ac ymweliadau.
Gall teuluoedd yng Ngheredigion gysylltu â HWB Ymwelwyr Iechyd Ceredigion os ydynt am siarad ag Ymwelydd Iechyd ar 0300 3038322.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Dewch draw am baned a sgwrs a chael ychydig o help a chefnogaeth gan rieni eraill, wrth iddynt rannu eu profiadau o’r daith fwydo. Croeso cynnes i’r rhai sydd yn feichiog, rhieni, gofalwyr, babanod a’i brodyr a chwiorydd
Nid oes angen archebu lle.
Lluniaeth ar gael neu dewch â'ch un eich hun.
Digon o deganau a gweithgareddau i'r plant hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth am fwydo ar y fron ar gael yn:
Bwydo ar y Fron y GIG
https://www.nhs.uk/start-for-life/baby/feeding-your-baby/breastfeeding/
Cynghrair GB La Leche
https://laleche.org.uk/
Y Rhwydwaith Bwydo ar y Fron
https://www.breastfeedingnetwork.org.uk/
Cymdeithas y Mamau sy'n Bwydo ar y Fron
https://abm.me.uk/

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Dim angen cyfeirio.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Cyfrwng Cymraeg a Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

9yb-5yp Dydd Llun-Dydd Gwener