Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r cwrs hwn ar gyfer rhieni, mam-guod a thad-cuod a gofalwyr – i bawb ym mywyd y babi, sy'n dymuno meithrin perthynas gadarn ac iach gyda'r babi.
Mae'n gwrs 5 wythnos sy'n ystyried sut a pham y mae cychwyn eich perthynas gyda'ch baban cyn i'ch baban gyrraedd y byd hyd yn oed, mor bwysig i chi a'ch baban!
Mae'n esbonio sut a pham yr ydych chi mor bwysig i'r baban, os mai chi yw'r fam, y tad, y partner, y fam-gu neu'r tad-cu neu'r partner geni.
Dros y 5 wythnos byddwn yn rhoi sylw i'r materion canlynol:
• Disgwyliadau o faban newydd
• Bwydo babanod a Chwsg Diogel
• Datblygiad ymennydd y baban
• Iaith gynnar – Siarad gyda'r baban yn eich croth
• Paratoi ar gyfer rhoi genedigaeth – darparir y sesiwn hon gan
Fydwraig
• Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Amenedigol
I gychwyn ar eich taith gyffrous cysylltwch a ni.