Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'r plant yn gymwys i gael lle meithrin rhan-amser, pum bore neu bum prynhawn fel arfer, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.
Gallwch wneud cais am le meithrin eich plentyn drwy ffurflen gais ar-lein Derbyniadau Meithrin Cyngor Bro Morgannwg (dolen isod). Gallwch hefyd ddefnyddio eu tudalennau gwe i wirio eich dalgylch neu gofrestru manylion eich plentyn os nad ydynt o oedran ysgol eto ond yr hoffech gael gwybod pryd y bydd y broses Meithrinfeydd yn agor.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i rieni cymwys sy'n gweithio ar draws Bro Morgannwg, i helpu gyda chostau gofal plant. Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01446 704704, www.valeofglamorgan.gov.uk/cynniggofalplant, neu fis@valeofglamorgan.gov.uk
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rhieni a gofalwyr plant 3-4 oed ym Mro Morgannwg
Amserau agor
Dydd Llun i Ddydd Iau
8:30am - 5pm
Dydd Gwener
8:30am - 4:30pm