Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Plant y Coed yn wasanaeth gwarchod plant cofrestredig i blant rhwng 0 - 12 oed.
Mae Plant y Coed yn agored i bob teulu a phlentyn yn y gymuned. Carwn gynnig lle i bob teulu sydd â diddordeb yn fy lleoliad, ond oherwydd y galw cynyddol, nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Bydd cynnig i bob teulu gael eu hychwanegu at fy rhestr aros, er mwyn cael lle yn y dyfodol, a chysylltir â nhw cyn gynted ag y bydd lle ar gael. Rwy’n gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin.