Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Beth fyddaf yn ei gael gan Inform?
Pan fyddant yn wynebu'r ymddygiad hwn, mae'r rhan fwyaf o bobl i ddechrau yn teimlo dicter, sioc a dryswch - neu ddim ond diffyg teimlad. Dilynir hyn yn gyflym gan gwestiynau brys ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar eu teulu, eu perthnasoedd, eu swydd - a sut y maent yn mynd i ymdopi â'r broses gyfreithiol, y diddordeb cyfryngau posibl, a'r stigma posibl.
Mae Inform yn darparu gofod diogel, cefnogol ac anfeirniadol lle gall pobl rannu ac archwilio effaith emosiynol ac ymarferol yr ymddygiad hwn, ochr yn ochr â phobl eraill sy'n delio â materion trawmatig tebyg.
Bydd gennych fwy o ddealltwriaeth o’ch anwyliaid yn troseddu a mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn i’w ddisgwyl ar wahanol gamau o’r broses cyfiawnder troseddol, yn ogystal â gofod pwrpasol i archwilio trawma parhaus y ‘gnoc’.