Gall bod yn rhan o deulu fod yn beth hyfryd, ond gall hefyd fod yn heriol. Mae pawb angen rhywfaint o gymorth weithiau. Mae angen i lawer o bobl weithredol gefnogi ei gilydd i helpu plant i ddatblygu'n oedolion iach.Mae gennym bum Tîm Cymorth i Deuluoedd yng Nghonwy, sydd ar gael i helpu gyda phob agwedd o fywyd teuluol. Mae ambell un ohonynt yn gweithio yn rhai o’r Canolfannau Teuluoedd. Rydym yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd drwy:• Fynediad at wybodaeth a chyngor • Grwpiau i’w mynychu (ar-lein neu mewn person) • Grwpiau wedi’i targedu a chyrsiau (er enghraifft cyrsiau rhianta) • Cefnogaeth gan Weithiwr Teulu yn benodol ar eich cyfer chi a’ch teulu• Mynediad at gefnogaeth arbenigol arall
Mae ein pum tîm wedi eu lleoli mewn cymunedau ar draws Conwy, ac maent yno i gefnogi unrhyw deulu gyda phlant o unrhyw oedran.
Nac oes
Gall bob teulu ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch ddod o hyd i’ch Tîm Cymorth i Deuluoedd lleol trwy edrych ar y wefan hon www.conwy.gov.uk/bywydteuluol neu ffoniwch 01492 574140
Iaith: Dwyieithog
https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Social-Care-and-Wellbeing/Children-and-families/Conwy-Family-Centres/Conwy-Family-Centres.aspx