Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Teuluoedd a gofalwyr di-dâl sy'n cefnogi plentyn anabl neu oedolyn ag anabledd dysgu. Rydym yn sefydliad â ffocws rhanbarthol sy’n cefnogi dros 1000 o deuluoedd ar draws siroedd Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn cynnig gwybodaeth (ond nid cyngor) ar ystod enfawr o bynciau sy’n cwmpasu pob maes o fywyd, a’n gofalwyr yw ein hadnodd mwyaf o ran casglu gwybodaeth a rhannu eu profiadau o lywio bywyd fel gofalwr di-dâl.