Gweithiwr Ieuenctid Ysgolion - Ysgol Bro Hyddgen - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Fy enw i ydy Elen Chick a fi yw’r Gweithiwr Ieuenctid Mynediad Agored ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen.

Fy ngwaith i yw hybu iechyd meddwl cadarnhaol trwy roi cefnogaeth lles emosiynol a chymdeithasol i bobl ifanc yn yr ysgol. Rwy’n gwneud hyn trwy sesiynau mynediad agored. Mae’r rhain yn amrywio o waith grŵp i gefnogaeth un i un ar gyfer pobl ifanc trwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae sesiynau wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl yn cymryd rhan yn wirfoddol.

Mae sesiynau eraill yn cynnwys sesiynau galw i mewn lle cewch wybodaeth ieuenctid dros amser cinio. Hefyd mae clwb gemau bwrdd a chefnogaeth gyda’r cwricwlwm ABCh.

@PowysOAYW

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25 oed.

Yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd yn yr ysgol uwchradd rhwng 7 - 13 oed, a phobl ifanc ym mlwyddyn chwech yn ystod eu cyfnod pontio i gampws yr ysgol uwchradd yn ystod tymor yr haf.

@PowysOAYW

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Cefnogaeth Mynediad Agored – gall pobl ifanc atgyfeirio eu hunain neu gallwn ninnau drefnu sesiynau un i un trwy Swyddog Lles yr ysgol.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol i gefnogi eu hiechyd meddwl cadarnhaol a’u lles cyffredinol.

    @PowysOAYW
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Rwyf yn Ysgol Bro Hyddgen dau ddiwrnod yr wythnos

Bob dydd Llun a dydd Mercher yn ystod amser tymor.

Rwy’n gwneud prosiectau yn ystod gwyliau’r haf.