Ysbrydoli Teuluoedd - Calan DVS - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Rhaglen ‘Ysbrydoli Teuluoedd’ yn rhaglen asesu ddeg wythnos arloesol a strwythuredig a all helpu i gryfhau a sefydlogi teuluoedd lle mae’n hysbys fod trais a cham-drin domestig ond fod y teulu'n dewis aros gyda'i gilydd.

Trwy weithio gyda'r teulu cyfan rydym yn gallu:

- Asesu a rheoli'r lefelau risg sy'n bresennol yn y cartref.
- Asesu’n gywir effaith byw mewn amgylchedd ymosodol ar blant y cartref (a chynhyrchu camau lleihau niwed ar unwaith).
- Adnabod y math o gam-drin a'r potensial ar gyfer newid.
- Creu rhaglen o gefnogaeth a gafodd ei theilwra’n arbennig i anghenion y teulu hwnnw gan gynyddu'r siawns o leihau risg yn sylweddol.

Gall teuluoedd dorri'r cylch cam-drin a chreu amgylchedd mwy diogel a chariadus lle gall teuluoedd fyw gyda'i gilydd.

Yn ystod y cymorth, gall fod yn ofynnol i’r teulu wahanu a chaiff hyn ei gefnogi’n drylwyr gan y prosiect.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Teuluoedd. Mam/Tad, Mam/Bartner, Tad/Bartner a phob plentyn hefyd.

Cyflwynir y rhaglen mewn dau grŵp ar wahân neu ar sail 1 i 1. Mae cymorth ar gyfer pob aelod o'r teulu yn cael ei redeg ochr yn ochr.

Mae cynnwys y rhaglenni yr un peth i raddau helaeth ar gyfer y ddau grŵp. Mae'r grwpiau'n cael eu cynnal am ddwy awr bob wythnos. Penderfynir ar amseriad cyflwyno'r grwpiau yn lleol. Gall y rhaglen annog newid cadarnhaol yn y modd y rheolir sefyllfaoedd oedd a sbardunodd ymddygiad ymosodol yn y gorffennol, cyflwyno agweddau gwell at berthnasoedd iach, gwell arferion rhiantu a gwell dealltwriaeth o effeithiau trais domestig ar blant.

Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i blant o fewn y teulu hefyd. Y nod yw cefnogi ac addysgu pawb i leihau amlygiad ac effaith cam-drin arnynt eu hunain a'u plant.


Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r teulu. https://forms.office.com/e/vTsF3K18i4

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg gydag elfennau dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Cefnogaeth 1:1 wedi'i theilwra ar gyfer Plant a phobl ifanc.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4.30pm