Cam Nesaf - Y Bont - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y rhaglen Cam Nesaf yw gweithio gyda thadau sydd yng nghamau cyn-fyfyriol neu fyfyriol y cylch newid mewn perthynas â'u hymddygiad camdriniol a/neu reoli.
Mae hon yn rhaglen baratoi ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig. Ar ddiwedd y rhaglen byddwn yn cyfarfod â'r tadau a'u cyfeirio i drafod rhaglenni eraill y gallent fod o fudd i'w cynnydd o fod mewn perthynas iach a di-gam-drin.

Yn ystod y cwrs bydd tadau yn cael cyfle i:-
• Archwilio rôl tadau fel model rôl cadarnhaol i blant.
• Archwilio perthynas iach gadarnhaol rhwng tadau a'u plant.
• Codi ymwybyddiaeth o brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a sut mae'r rhain yn effeithio ar blant a'u bywydau yn y dyfodol.
• Codi ymwybyddiaeth o dadau ynglŷn â'u rhianta presennol ac unrhyw bryderon sydd ganddynt hwy neu eraill.
• Ystyried y cymorth y gallai fod ei angen ar dadau i wneud newidiadau cadarnhaol i'w rôl rhianta.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Tadau sydd yn agored i Wasanaethau Cymdeithasol yn Ngwynedd, Conwy a Sir Fflint

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Ffurflen cyfeirio gan ymarferydd sydd yn gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad