Dechrau'n Deg Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau’n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddarparu mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan 4 oed. Mae gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu darparu naill ai wyneb yn wyneb, mewn grwpiau, ar-lein, neu dros y ffôn. Mae Dechraun Deg Ceredigion yn darparu:
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar. Mae gennym Dîm Ymwelwyr Iechyd sydd yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Teuluoedd, sydd yn medru cynnig gwasanaeth mwy dwys pan fo angen. Rhif ffôn Hwb Ymwelwyr Iechyd: 07970 501 609 (9.yb-5yp, Llun-Gwener).
- Gofal Plant Rhan Amser o Ansawdd Uchel wedi ei ariannu ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed. Cynnigir gofal plant mewn lleoliad o'ch dewis chi am 2 awr a hanner bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.
- Cymorth Rhianta trwy gwaith 1:1 neu trwy grwpiau lleol.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau iaith cynnar, cyfathrebu a siarad trwy gwaith 1:1 neu grŵp i fagu sgiliau ac ymwybyddiaeth.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

O dan amodau arferol, mae Dechrau'n Deg ar gael i bob teulu cymwys sydd yn byw mewn Cod Post #DechraunDegCeredigion yn yr ardaloedd a ganlyn:
- Aberteifi
- Penparcau
- Llanarth
- Llandysul
- Aberporth
- Llechryd

I ddarganfod a ydych mewn cod post sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg, gallwch roi eich cod post i mewn i’n gwiriwr cod post ar ein gwefan

I gael mwy o wybodaeth am ein holl grwpiau a chyrsiau, neu i gysylltu â ni, gallwch:
- Teipiwch #DechraunDegCeredigion neu
#ODan5Ceredigion neu
#RhiantaCeredigion yn y bar chwilio ar DEWIS.
- Dewch o hyd i'n tudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families.
- Ffoniwch Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570 881
- E-bostiwch dechraundeg@ceredigion.gov.uk
- Ewch i ein wefan https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal-1/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/


Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae grwpiau a chyrsiau Dechrau'n Deg ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd ledled Ceredigion. Mae’r rhaglen ar gael i bob teulu sy’n byw o fewn codau post penodol, ewch i’n gwefan a rhowch eich cod post yn ein gwiriwr cod post i weld a ydych yn gymwys.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs 'Family Links' yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Arbennig.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Canolfan Enfys Teifi
Stryd Napier
Aberteifi
SA43 1EH



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch

 Amserau agor

9-5 Llun-Gwener