Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i: fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd chwarae gyda phob math o deganau dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref gwrando ar storiau chwarae gyda thywod a chlai… a joio!Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddwylliannol agored a llawn bywyd
Rhieni a gofalwyr a'u plant cyn ysgol (0-4)
Nac oes
Gall unrhyw un gysylltu â ni.
https://meithrin.cymru