Beth rydym ni'n ei wneud
Rydym yn cynnal clybiau gweithgareddau a chymdeithasol i blant ac oedolion ifanc (5-19) sydd ar y sbectrwm awtistig a chyflyrau cysylltiedig.
Mae gennym hefyd ystafell synhwyraidd o'r radd flaenaf sydd ar gael i'w llogi gan rieni / gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys: Clybiau cymdeithasol, celfyddydau mynegiannol, sgiliau pêl, sesiynau nofio i'r teulu, pobl ifanc yn eu harddegau, a sesiynau sgiliau bywyd, clwb gwyliau, plant bach, cerddoriaeth.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Plant 5-18 oed ac oedolion ifanc 18-25 oed ar y sbectrwm awtistig neu sydd hefo cyflwr cysylltiedig.
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau cefnogi rhieni a hyfforddiant pwrpasol
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Oes - Oes - Mae taliadau yn cynnal y gwasanaeth yr ydych yn ei ddefnyddio. Cysylltwch â ni am fanylion prisio. Rydym yn cadw taliadau i'r lleiafswm.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae angen atgyfeiriad; gall hyn fod gan riant / gofalwr neu weithiwr proffesiynol neu hunan-gyfeiriadau gan oedolion ifanc. Cynhelir cyfarfod i weld sut y gallwn ddiwallu anghenion y person.
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Market Square
Fifth Avenue
Wrexham
LL12 0SA
Amserau agor
Mae ein grwpiau yn rhedeg ar ôl ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, gweler y wefan am fanylion llawn.
Mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00 y bore hyd 5.00 y prynhawn ar gyfer ymholiadau cyffredinol