Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r Rhaglen Feithrin i Rieni yn addas ar gyfer rhieni sydd â phlant bach a phlant oed cynradd, ond mae'n addas ar gyfer pob oedran.
Mae 10 sesiwn o ddwy awr gydag egwyl ar gyfer te/coffi.
Gan fod y rhaglen yn adeiladu ar y sesiwn flaenorol, y peth gorau yw mynychu pob un o'r deg sesiwn gan fod y rhaglen yn dod ynghyd fel jig-so.
Cyflwynir y rhaglen mewn ffordd anffurfiol gyda grŵp o tua wyth o rieni.
Agored i unrhyw deulu sy'n byw yng Ngheredigion ac sydd â phlentyn neu berson ifanc. Gallech fod yn rhiant, yn llysfam neu lystad, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu yn gofalu am blentyn.