Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn sicrhau bod anghenion teuluoedd yn dod gyntaf. Os oes angen cymorth, cyngor neu arweiniad arnoch chi a'ch teulu, gallwn helpu.

Gallwn ni helpu gydag amrywiaeth o anghenion cymorth megis:
- Cymorth wedi'i gydlynu gan y Tîm o Amgylch y Teulu.
- Mynediad at ddarpariaeth gymunedol (i blant, pobl ifanc ac oedolion)
- Gwasanaethau eiriolaeth
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwasanaethau cam-drin domestig
- Blynyddoedd Cynnar (0-7 oed): Beichiogrwydd, lleferydd ac iaith, ymddygiad a datblygiad plant
- Ymgysylltu â theuluoedd
- Cymorth ariannol
- Cymorth i rieni
- Cymorth lles
Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r Rhaglen Teulueodd yn Gyntaf yn darparu ystod o
wasanaethau i gynorthwyo teuluoedd, gyda phlant rhwng
0 - 25 oed, sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol a gwybodaeth ychwanegol am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Canolog gan ddefnyddio’r manylion isod 01443 864151

Os oes angen cymorth arnoch chi gan un o’n prosiectau, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Caerffili (IAA). Gallwch chi gysylltu â nhw ar: 0808 100 1727
- CyswlltAcAtgyfeirio.gov.uk

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael i bob teulu sydd angen help, waeth ble rydych chi'n byw neu faint rydych chi'n ei ennill.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Byddem yn fodlon darparu ar gyfer unrhyw blentyn ag anableddau ym mhob un o'n prosiectau
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Iau 8:30am-5:00pm
Dydd Gwener 8:30am-4:30pm