Grwpiau Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion - Gro Brain Plant Bach - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Grwpiau Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion – sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol.
Mae GroBrain Plant Bach yn archwilio cyswllt, emosiynau y bydd rhieni a babanod yn eu profi, a datblygiad yr ymennydd. Dros y 5 wythnos, bydd y sawl a fydd yn mynychu'r cwrs yn ystyried materion a fydd yn cynnwys:
- Ymlyniad
- Datblygiad yr Ymennydd
- Lles Emosiynol
- Argymhellir eich bod yn mynychu'r pum sesiwn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y rhaglen.
- Mae croeso i chi fynychu'r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy'n eich cynorthwyo wrth roi gofal i chi a gofal ar gyfer eich plentyn.
- Cyflwynir y rhaglen hyd at 10 rhiant.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Grŵp ar gyfer rhieni neu ofalwyr y mae ganddynt plant bach 1-3 oed yw GroBrain Plant Bach.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un sy'n fyw yng Ngheredigion gysylltu â ni.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Cyfrwng Cymraeg a Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

9-5 Dydd Llun- Dydd Gwener