Same but different - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein gwasanaeth cymorth ac eirioli personol yn anelu at sicrhau bod modd i bob teulu gael mynediad at y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gwrdd â’u hanghenion. Gall ein tîm eich cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau ac offer buddiol, a gallent hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, offer ac adnoddau sydd yn annog dealltwriaeth o afiechydon anghyffredin a sut o bosib maent yn effeithio’ch teulu chi. Rydym yn gweithio’n agos â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau fod ein teuluoedd yn cael yr holl wybodaeth a mynediad at y gofal, triniaethau a gwasanaethau gorau posib i’w cynorthwyo yn eu bywydau beunyddiol, a hybu cyfleoedd iddynt fod yn annibynnol a chymdeithasu.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Yma yn Same but Different, rydym yn anelu at wneud gwahaniaeth positif i fywydau’r bobl hynny a affeithir gan afiechydon anghyffredin. Drwy ein gwasanaeth Llywiwr yr Anghyffredin, rydym yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol a gwybodaeth i unigolion, eu teuluoedd a phawb sydd ynghlwm â’u gofal, o dderbyn diagnosis a thu hwnt i hynny.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall fod yn hunan-atgyfeiriad neu gan sefydliad

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Cefnogi teuluoedd a effeithir gan afiechydon anghyffredin ar draws Gogledd Cymru. Mae ganddi ddealltwriaeth bersonol a phroffesiynol o’r cymhlethdodau a’r anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

The Old Chapel
91 Wrexham Street
Mold
CH7 1HQ



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

9 - 5 Dydd Llun - Dydd Gwener (ar gau gwyliau banc)