Barnardo's Cymru - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Bob dydd, rydym yn darparu cymorth hanfodol i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr drwy ein hystod eang o wasanaethau a phartneriaethau yng Nghymru. Mae ein pwrpas yn glir – newid plentyndod a newid bywydau, fel bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ddiogel, yn hapus, yn iach ac yn obeithiol.

Ers 150 o flynyddoedd a mwy, rydym wedi bod yma i’r plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf – gan ddod â chariad, gofal a gobaith i’w bywydau a rhoi lle iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae ein gwasanaethau’n helpu plant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr gyda chyngor, arweiniad a chefnogaeth ynghylch y materion canlynol
• Iechyd Meddwl a Llesiant
• Gofalwyr Ifanc
• Pobl sy’n Gadael Gofal
• Cam-drin Domestig
• Cymorth Anabledd
• Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
• Maethu


Wnaethom gefnogi 8,000 o blant, pobl ifainc a theuluoedd yn uniongyrchol y flwyddyn diwethaf a chefnogaeth llai dwys i 2,000 yn ychwanegol.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

87A Grand Avenue
Caerdydd
CF5 4LE



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad