Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn deall yr effaith ddinistriol y gall troseddu rhywiol ar-lein ei chael ar unigolion a'u teuluoedd. Mae ein rhaglenni’n darparu man diogel a chyfrinachol lle gall cyfranogwyr siarad am eu hymddygiad ar-lein, ochr yn ochr â phobl eraill sy’n delio â sefyllfaoedd tebyg.
Mae Inform Plus yn helpu pobl i roi'r gorau i edrych ar ddelweddau anweddus o blant. Mae Engage Plus yn helpu i atal cyfathrebu rhywiol ar-lein gyda phlant. Mae'r ddwy raglen yn cefnogi cyfranogwyr i archwilio eu troseddu rhywiol ar-lein mewn amgylchedd anfeirniadol a chefnogol.
Mae ein rhaglenni yn cael eu rhedeg gan staff arbenigol a phrofiadol. Maent yn helpu cyfranogwyr i ddeall eu hymddygiad a dod o hyd i ffyrdd o reoli meddyliau ac emosiynau anodd i atal troseddu pellach.