Pwy ydym ni'n eu cefnogi
phobl ifanc rhwng 4 ac 17 oed y mae cam-drin rhywiol wedi effeithio arnynt, ac sy’n hapus i gael eu cyfeirio at y rhaglen. Gellir hefyd gyfeirio plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ysgafn neu gymedrol hyd nes eu bod yn 19 oed.
Derbynnir cyfeiriadau fel arfer ar gyfer plant a phobl ifanc ar ôl cynnal ymchwiliad i’r honiadau o gam-drin rhywiol.
Dylai’r plentyn neu’r person ifanc fod yn byw mewn amgylchedd sefydlog gyda rhiant neu ofalwr, ac nid gyda’r drwgweithredwr honedig.
Bydd y rhiant neu’r gofalwr yn cymryd rhan yn y rhaglen ac yn cael cynnig cefnogaeth unigol a sesiynau ar y cyd gyda’u plentyn.
Gall brodyr a chwiorydd y mae angen cymorth arnynt gael mynediad at y gwasanaeth hefyd.
Ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd, mae hyn yn para rhwng 6 a 10 mis.