Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae gan bob plentyn sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg yr hawl i leoliad gofal plant wedi'i ariannu o'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn ddwy oed hyd at ddiwedd y tymor pan fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn dair oed ac yn gymwys i gael lleoliad blynyddoedd cynnar. Ewch i dudalen Blynyddoedd Cynnar Caerffili – gofal plant Dechrau’n Deg wedi'i ariannu a defnyddio ein gwiriwr cod post i ddarganfod a yw'ch plentyn yn gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg.