Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r sesiynau hyn yn gyfle perffaith i blant rhwng 4 ac 11 oed i gael profi’r ysgol goedwig dros eu hunain.
Mae’r sesiynau Pyllau Mwdlyd yn cyd-fynd â phrif ethos yr ysgol goedwig. Y plant fydd yn arwain y gweithgareddau hyn yn bennaf a bydd yn gyfle i’w dychymyg grwydro. Bydd y plant yn cael eu herio mewn amgylchedd newydd, lle byddant yn treulio’r diwrnod cyfan y tu allan yn yr awyr iach yn mwynhau’r dirwedd naturiol o’u hamgylch. Gallant gydweithio neu weithio ar eu pen eu hunain tuag at nod neu syniad, gan ddatblygu’r sgiliau maent wedi’u meithrin eisoes. Bob tro y bydd y plant yn mynychu, byddant yn meithrin a datblygu llawer o sgiliau, megis; cyfathrebu, meddwl yn feirniadol ac yn greadigol, hunanymwybyddiaeth, hunan-hyder a’u gallu i asesu a mesur risg.
Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod Gwyliau’r Haf, Hanner Tymor mis Hydref, Hanner Tymor mis Chwefror, Gwyliau’r Pasg a Hanner Tymor mis Mai.