Kidscape - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Bwlio yw brifo un person neu grŵp yn fwriadol, dro ar ôl tro, gan berson neu grŵp arall, lle mae’r berthynas yn cynnwys anghydbwysedd o ran pŵer. Mae’n gallu digwydd wyneb yn wyneb neu drwy seiberofod, ac mae llawer o wahanol ffurfiau iddo.

Ein cenhadaeth ni yw rhoi cyngor, hyfforddiant a dulliau ymarferol i blant, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i atal bwlio ac amddiffyn bywydau ifanc.

Rydym yn cynnig llinell cyngor gwrth-fwlio ar gyfer rhieni. Gall rhieni, gofalwyr ac aelodau teulu sy’n poeni bod eu plentyn neu berson ifanc yn cael ei fwlio’n bersonol neu dros lwyfannau cymdeithasol a ffonau gysylltu â ni am gefnogaeth a chyngor. Sylwch nad gwasanaeth argyfwng yw hwn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn rhoi cyngor a gwybodaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn cadw plant yn ddiogel.

Hefyd rydym yn darparu amrediad o gyfleoedd hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gefnogi darpariaeth amgylcheddau diogel a meithringar.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un ddefnyddio ein gwefan.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Amserau agor

For our Parent Advice Line call 020 7823 5430 (Mon-Weds from 9:30am to 2:30pm) Calls are charged at local rate
Support by email - the most efficient way of contacting us is by email. Please use the email address most appropriate to your enquiry. Please note that we receive a large number of emails to this address and it may take up to five working days to receive a response.