Mae Criced Cymru yn un o 39 o Fyrddau Criced Sirol sy’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (yr ECB) ac mae hefyd yn cael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer criced yng Nghymru. Mae ein gweledigaeth yn syml; hynny yw, ‘I Griced gipio dychymyg Cymru’ a’n nod yw cyflawni ein strategaeth ‘Ysbrydoli Cenedlaethau’ mewn partneriaeth â’n cydweithwyr a’n cyfeillion yng Nghriced Morgannwg, ynghyd â’n prif gyllidwyr, yr ECB, Chwaraeon Cymru, Chance to Shine a’r Lord's Taverners. Rydym yn bodoli ‘i arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar dwf, ansawdd a hygyrchedd criced yng Nghymru’. Mae llawer o sefydliadau criced gwahanol o bob rhan a chwr o Gymru’n rhan ohonom, ac rydym oll yn rhannu angerdd am griced.I agor cyfle mewn criced i’ch plentyn, neu i oedolion: cliciwch yma am griced merched/bechgyn/menywod/dynion https://cricketwales.org.uk/
Pawb!https://cricketwales.org.uk/news/national-programmes-go-live
Nac oes
Anyone can contact us directly.
Iaith: Saesneg yn unig
https://cricketwales.org.uk/