Agored Cymru yw'r corff dyfarnu o ddewis yng Nghymru gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru.Rydym yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol, felly rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr o bob oed a gallu yn gwneud y gorau o'u potensial.Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, mewn amrywiaeth eang o bynciau o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch o allu cynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg ac rydym wedi buddsoddi mewn datblygu cymwysterau Iaith Gymraeg.Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dros 250 o ganolfannau ledled Cymru sy'n cynnwys ysgolion, prifysgolion, colegau, elusennau, cymdeithasau tai a busnesau i greu a darparu cymwysterau a dyfarnu credyd i ddysgwyr.
Rydym yn rhoi'r cyfle i bobl o bob oed fanteisio ar ddysgu gydol oes, boed hwy mewn addysg amser llawn o hyd, yn gweithio, neu'n chwilio am waith.
Nac oes
Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.
https://www.agored.cymru/Hafan