Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta defnyddiol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o gwasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn grwpiau.Diddyfnu a MaethSesiwn, lle y byddwn yn sôn am ddechrau bwydo bwyd solet i'ch baban. Byddwn yn trafod pryd i ddechrau bwydo bwyd solet a pha fwyd i'w roi iddynt, sut i wneud hynny mewn ffordd ddiogel ac yn bwysicaf oll, sut i sicrhau bod hwn yn brofiad hwyliog a phleserus i'r teulu cyfan! Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol er mwyn i ni gyd allu rhannu syniadau.Yn ystod y sesiwn, mae'n cynnig cyfle i chi hefyd feithrin cyfeillgarwch gyda rhieni eraill sydd â babanod yr un oed.Byddwch yn cael llyfryn Ffordd o Fyw Iach i gyd-fynd â'r sesiynau hefyd, yn llawn cyngor a ryseitiau teuluol i chi roi cynnig ar.
Mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant Bwydo ar y Fron, felly os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda Bwydo ar y Fron, cysylltwch â ni.Am fwy o wybodaeth am y grŵp cysylltwch â ni..
Nac oes
Gall unrhyw un sy'n byw yng Ngheredigion gysylltu â ni.
Iaith: Cyfrwng Cymraeg a Saesneg
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/