Y Rhwydwaith Profedigaeth Plant yw’r hwb ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig sydd mewn galar, a'u teuluoedd. Rydym ni’n ategu gwaith ein haelodau gyda chymorth a chynrychiolaeth hanfodol: gan ddod â nhw at ei gilydd ar draws ardaloedd, disgyblaethau a sectorau i wella gofal profedigaeth i blant.Credwn fod gan bob plentyn yr hawl i wybodaeth, canllawiau a chefnogaeth i'w galluogi i reoli effaith marwolaeth ar eu bywydau. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn colli rhywun sy’n agos atynt (rhiant, brawd neu chwaer, nain/mam-gu neu daid/tad-cu, cyfaill, athro) erbyn y byddant yn 16 oed. Bydd llawer yn ymdopi'n dda â'u colled, ond bydd pob un angen cefnogaeth y rheiny o'u cwmpas.
Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda plant mewn profedigaeth, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr.
Mae'n dibynnu - Cysylltwch â’r Rhwydwaith Profedigaeth Plant i gael y manylion.
Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.
Iaith: Saesneg yn unig
23 Mentmore TerraceLondonE8 3PN
https://childhoodbereavementnetwork.org.uk/