Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer HOLL ddarpar rieni, rhieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr unrhyw blant o’r cyfnod cyn-geni hyd at 18 mlwydd oed. Mae’r cwrs yn berthnasol i rieni pob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig, awtistiaeth, ADHD ac ati.
Byddem yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn sydd â therfyn amser. Mae’r cyrsiau AM DDIM i bob preswylydd Gogledd Cymru gyda’r codau mynediad NWSOL.