Mae Swyddogion Lles Addysg y gweithio’n agos gydag ysgolion a theuluoedd er mwyn datrys materion yn ymwneud â phresenoldeb. Maen nhw’n cefnogi plant a theuluoedd pan fydd disgyblion yn wynebu anawsterau yn yr ysgol neu pan fydd materion lles yn tarfu ar addysg plentyn. Bydd Swyddogion Lles Addysg yn ymchwilio i’r rhesymau dros absenoldeb o’r ysgol ac yn gallu rhoi cyngor i deuluoedd am wasanaethau cymorth arbenigol ac atgyfeirio at wasanaethau addas. Yn ogystal â rhoi sylw i faterion yn ymwneud â phresenoldeb gyda disgyblion unigol a’u teuluoedd, mae gan Swyddogion Lles Addysg rôl hanfodol arall, sef gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i hyrwyddo presenoldeb ar draws yr ysgol gyfan a lleihau absenoldebau parhaus. Mae llawer o Swyddogion Lles Addysg hefyd yn rhoi cyngor i ysgolion am les plant a diogelu plant mewn addysg. Fel arfer, bydd gan ysgolion Swyddog Lles Addysg penodol. Mae’r Swyddogion penodol hyn yn cefnogi’r ysgol wrth iddi roi sylw i faterion yn ymwneud â phresenoldeb
Gall ysgolion ofyn i’r swyddog i ymweld â chartref disgybl neu weld disgybl yn yr ysgolGall plant drafod problemau gyda’u Swyddog Lles Addysg Gall rhieni ofyn am gymorth, cyngor neu gefnogaeth gan y Swyddog
Nac oes
Anyone
Iaith: Yn aros am gadarnhad
Torfaen County Borough CouncilCivic CentreNP4 6YB