Mae ein rhaglen nofio wedi’i datblygu i feithrin hyder a sgiliau eich plentyn yn y dŵr yn ystod eu pum mlynedd gyntaf. Mi fyddwch wrth eich bodd gweld eich plentyn yn datblygu o gael hwyl yn arnofio, cicio a sblasio i nofio’n annibynnol.Nid yn unig y bydd eich plentyn yn datblygu sgiliau dŵr allweddol, byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’w galluogi nhw i gadw’u hunain yn ddiogel. Erbyn diwedd eu siwrnai gyda ni bydd eich plentyn yn gallu nofio’n annibynnol i’r ochr a dringo allan yn ddiogel lle bynnag maen nhw.Gallwch fod yn dawel eich meddwl eu bod nhw’n dysgu gan y goreuon. Mae ein hathrawon nofio yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 Swim England - does dim cymhwyster uwch na hwn i’w gael. Mae ein hathrawon yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac maen nhw yno i arwain eich plentyn ar bob cam o’u siwrnai nofio.Mae popeth sy’n cael ei ddysgu yn y dŵr wedi’i strwythuro i gefnogi eu datblygiad yn gorfforol, yn ddeallusol ac yn emosiynol
Babanol a phlant bach rhwng 0 - 5 oed.
Oes - Cysylltwch am fanylion
Canolfan Hamdden AbergeleFaenol Avenue,Abergele LL22 7HT
https://www.waterbabies.co.uk/